You are here: Pool & Spa Care > Advice & Case Studies > Portmerion y pentref Eidalaidd yng Ngogledd Cymru
Pennosan yn gwella profiad cwsmer Portmeirion gyda chynnyrch naturiol i lanhau dŵr sba a phwll nofio!
Mae’r pentref Eidalaidd; Portmeirion yn parhau i fod yn atyniad twristiaeth fawr yng Ngogledd Cymru gyda phrofiad gwesty a llety hunanarlwyo eithriadol o dda. Genhadaeth Portmeirion yw rhoi profiad moethus mewn amgylchedd hardd naturiol trwy ddatblygu cynaladwyedd amgylcheddol cyfleusterau'r pentref. Rhan o’r profiad moethus i gwsmeriaid yw mynediad unigryw i dwb poeth o'r ansawdd uchaf mewn amgylchedd naturiol. I sicrhau bydd y tybiau poeth yn barod o'r eiliad y mae'r cwsmeriaid yn cyrraedd a sicrhau fod yr agwedd amgylcheddol yn parhau, mae gofalwr Portmeirion wedi troi i fusnes lleol a cynaliadwy - Pennosan.
Pennosan yw busnes uchelgeisiol yng Ngogledd Cymru sydd wrthi’n galed yn creu cynhyrchion arloesol sydd yn defnyddio nwyddau naturiol i greu canlyniadau gwerthfawr trwy ddisodli cemegau mewn cymwysiadau glanhau dŵr. Trwy gydweithio gyda gwyddonyddess amgylcheddol Sue Dentley gwelodd rheolwr Dr Jonathan Hughes fwlch yn y farchnad i greu glanhawyr dwr naturiol i dŵr pyllau nofio a thybiau poeth. Eu prif gynnyrch yw ‘Pennosan Natural Pool and Spa Clarifiers’, sydd yn cael eu paratoi o ffibrau a ddarganfuwyd mewn cregyn crancod trwy ddefnyddio proses naturiol.
Cwmni yw Pennosan sydd wedi ehangu dros y tair blynedd ddiwethaf trwy sefydlu presenoldeb cefnogol i fusnesau lleol a busnesau diwydiant hamdden ledled y wlad. Roedd Portmeirion yn falch i ddarganfod fod Pennosan yn gwerthu toddiant glanhau dŵr naturiol sydd yn sicrhau canlyniadau cryf a chlir. Trwy gyswllt cyson, gafwyd gofalwr Portmeirion dealltwriaeth dda o fanteision cynnyrch naturiol glanhau dŵr Pennosan ac mi aeth arbenigwyr Pennosan ati i weithio’n syth i gynnig ateb i ddarparu glanhawyr dŵr phyllau nofio a thybiau poeth y pentref. Roedd Portmeirion yn falch dros ben i weld y canlyniad gwych ar ôl iddynt ddefnyddio Pennosan. Roedd y cwsmeriaid yn sicr yn camol y dŵr clir a glân. Wrth gydweithio gyda busnes sydd yn ceisio gwarchod agwedd amgylcheddol yn y farchnad tybiau poeth, mae modd i Bortmeirion barhau ei genhadaeth mewn modd amgylcheddol-gynaliadwy i'w holl gwsmeriaid. Gyda sylwadau sydd yn andros o gadarnhaol fel hyn mae Pennosan yn parhau i ddatblygu mwy o gynhyrchion naturiol i wella ein hamgylchedd yn y dyfodol.
Wrth weithio gyda Phortmeirion mae Pennosan wedi creu perthynas gryf gyda’r gymuned a busnesau lleol. Yn sicr, mae Pennosan yn parhau i ddatblygu prosiectau a'u cynnyrch naturiol o fewn y farchnad pyllau nofio, thybiau poeth a hefyd cynhyrchion naturiol eraill i wella ein hamgylchedd yn y dyfodol. Yn ogystal ag anelu eu cynnyrch naturiol tuag at y marchnadoedd dramor yn y dyfodol!
© Copyright 2024 - Pennosan - Website by Delwedd