Hafan > Amgylcheddol a Diwydiannol > Astudiaethau Achos > Adfer Maetholion ar gyfer Amaeth
Adfer Maetholion ar gyfer Amaeth
Mae dŵr gwastraff o gynhyrchu bwyd, a slyris o ffermydd yn ffynonellau werthfawr o faetholion. Ond mae'r cyfeintiau uchel a gynhyrchir yn eu gwneud yn ddrud i'w storio a'u dosbarthu. Byddant yn aml yn cael eu gwahanu trwy ddefnyddio cemegau a/neu eu dargyfeirio i gynhyrchu ynni (e.e. treuliad anaerobig, bio-olosg) gyda cholled ganlynol yn eu potensial maetholion.
Fe wnaethon ni weithio gyda Hufenfa De Arfon ac Arwerthwyr Bryncir i arddangos y defnydd o FloXan® ein gynnyrch ‘chitosan’ naturiol i gwahanu solet/hylif a wedyn gyda ein chynnyrch arsugnydd o gragen unigryw i droi dŵr gwastraff o gweithgynhyrchu caws a dŵr slyri yn wrteithiau sy'n llawn o faetholion a dŵr glân o ansawdd ymolchi.
Mae ein technoleg i adfer maetholion fferm a bwyd yn cynnwys flocculation gyda chymysgedd perchnogol o chitosans, ac yna gwahanu solet/hylif trwy Dissolved Air Floatation (DAF) a wedyn peiriant tonnau dad-ddyfrio. Mae'r broses hon yn cynhyrchu cacen cynnwys maetholion uchel a dŵr glân.
Mae ein thechnoleg FloXan® wedi'i arddangos yng ngwaith trin dŵr gwastraff Hufenfa De Arfon.
Roedd solidau ffatri caws wedi'u hadfer yn dyfn yn protein, braster a charbohydrad.
Cafodd dŵr golchi lori da byw ei drin gan ddefnyddio'r un dechnoleg.
Roedd cynnwys N a P y solidau tail fferm a adferwyd gan chitosan yn 70% a 40% yn uwch na heb chitosan.
Gan weithredu mewn system colofn ar raddfa beilot, roedd ein adsorbant unigryw, wedi'i cynhyrchu o gregyn yn gallu lleihau COD, ffosffad a nitrogen yn sylweddol mewn all-lif dŵr ar wahân i lefelau ansawdd ymdrochi. Roedd maetholion yn adferadwy o'r golofn a gellid ailddefnyddio'r adsorbant sawl gwaith.